Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Equality, Local Government and Communities Committee
ELGC(5)-08-16 Papur 2 / Paper 2
Gwaith craffu ar ôl y broses ddeddfu mewn perthynas â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
Papur gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant cyn ymddangos gerbron y Pwyllgor ddydd Mercher 19 Hydref 2016
Cefndir
Derbyniodd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015 ac mae’r holl ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r Ddeddf bellach wedi dod i rym. Mae’r Ddeddf yn ddarn hanesyddol o ddeddfwriaeth, ac yn torri tir newydd fel y gyfraith gyntaf o’i bath yn y DU.
Diben cyffredinol y Ddeddf yw gwella ymateb y sector cyhoeddus yng Nghymru i drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ei bwriad yw rhoi ffocws strategol ar y materion hyn a sicrhau y rhoddir ystyriaeth gyson i ddulliau ataliol, amddiffynnol a chymorth wrth ddarparu gwasanaethau.
Roedd rhagflaenydd y Pwyllgor yn y Pedwerydd Cynulliad, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn gyfrifol am graffu ar y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) cyn iddo gael ei ailenwi a dod yn Ddeddf. Adroddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil yn Nhachwedd 2014 ac roedd hefyd yn gyfrifol am ystyried diwygiadau Cyfnod 2 i’r Bil yn Ionawr 2015.
Mae’r papur hwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu darpariaethau’r Ddeddf a’i heffaith hyd yma fel y nodir drwy gylch gorchwyl y Pwyllgor.
I ba raddau mae’r dull o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gwella o ganlyniad i rwymedigaethau’r Ddeddf?
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ein dull o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac rydym yn hyderus y bydd yr hyn yr ydym yn ei wneud yn cael effaith ar welliant o ganlyniad i rwymedigaethau’r Ddeddf.
Strategaeth Genedlaethol
Un o rwymedigaethau’r Ddeddf yw dyletswydd i baratoi, cyhoeddi ac adolygu Strategaeth Genedlaethol. Rhaid cyhoeddi’r Strategaeth Genedlaethol gyntaf heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhaliwyd ar ôl cychwyn yr adran hon. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch y Strategaeth a daw hyn i ben ar 10 Hydref. Bydd fy swyddogion yn adolygu’r ymatebion ynghyd â mewnbwn a gafwyd o 3 digwyddiad rhanddeiliaid a gynhaliwyd ledled Cymru yn ystod Medi a chaiff hyn oll ei ystyried ar gyfer y strategaeth derfynol a fydd yn cael ei chyhoeddi ar 4 Tachwedd. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ganfyddiadau’r Pwyllgor wrth ddatblygu fersiwn derfynol y Strategaeth.
Mae’r Strategaeth yn adeiladu ar gynnydd ar y cyd o’r Sector Cyhoeddus hyd yma, ac yn blaenoriaethu’r meysydd atal, amddiffyn a darparu cymorth, yn unol â diben y Ddeddf. Mae’r amcanion arfaethedig fel a ganlyn:
· Trefniadau ar gyfer atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
· Trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol;
· Cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Y tri diben yma sy’n sail i’r Strategaeth hon ac yr ydym ni’n disgwyl i bartneriaid eu defnyddio fel sail i ystyried a datblygu eu strategaethau a’u polisïau hwy eu hunain.
Strategaethau Lleol
Rhaid i bob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol fynd ati ar y cyd i baratoi strategaeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol.
Wrth baratoi ac adolygu strategaeth leol, rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y canlynol —
(a) y strategaeth genedlaethol ddiweddaraf a gyhoeddwyd;
(b) yr asesiad diweddaraf ar gyfer ardal yr awdurdod lleol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol);
(c) yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â
rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (t.37)
sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn yn ardal yr awdurdod lleol;
(d) yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â
rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â mynd i’r afael â
cham-drin sylweddau yn ardal yr awdurdod lleol;
(e) yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â lleihau aildroseddu yn ardal yr awdurdod lleol.
Cyllid Grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig
Yn 2015-16 dyrannwyd £4.97m o gyllid refeniw i sefydliadau er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol mewn perthynas â Thrais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig i ddioddefwyr ledled Cymru (£4m o refeniw; £0.97 o gyfalaf.)
Yn 2016-17 cafwyd cynnydd o £500,000 yn y gyllideb refeniw i £4.5m, gan ddod â’r gyllideb i gyfanswm o £5.4m, a oedd yn golygu y gellid cynyddu’r dyraniadau i Awdurdodau Lleol. Mae tair ardal yn cael eu hariannu ar sail ranbarthol yn 2016-17 – Gwent, Powys a Chwm Taf sy’n cynnwys Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae’r dyraniadau wedi bod yn seiliedig ar y boblogaeth sy’n byw ym mhob ardal Awdurdod Lleol.
Mae cyfanswm y gyllideb wedi’i dyrannu fel a ganlyn:
· £1,937,730 wedi’i ddyrannu i Awdurdodau Lleol
· £1,979,820 wedi’i ddyrannu’n uniongyrchol i sefydliadau’r Trydydd Sector i roi cymorth i holl ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn cynnwys dioddefwyr sy’n ddynion. Mae’r cyllid hefyd yn cwmpasu’r broses o ddarparu’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn.
· caiff £582,450 ei ddyrannu i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 sy’n cynnwys gweithredu’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol, canllawiau statudol ar nifer o faterion; ariannu’r Cynghorydd Cenedlaethol a Chyhoeddusrwydd.
Gwnaed buddsoddiad cyfalaf sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf - £5.3 miliwn – drwy ddatblygu’r rhwydwaith o 21 o Siopau Un Stop ledled Cymru sy’n cynnwys gwasanaethau i fenywod, dynion a phlant.
Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
Cyhoeddwyd y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar 17 Mawrth 2016 a daeth i rym ar 1 Ebrill 2016. Mae Canllawiau Statudol y Fframwaith yn amlinellu cyfres o ofynion gwahanol ar gyfer hyfforddiant ar draws y gwasanaeth cyhoeddus a’r trydydd sector arbenigol yn dibynnu ar y rôl dan sylw.
Mae Adran 4 o’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn ganllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan adran 15 o’r Ddeddf a daeth i rym ar 1 Ebrill 2016; rhaid i holl ofynion statudol y Fframwaith sy’n ymwneud â dyddiad penodol gydymffurfio â’r dyddiad hwn. Arferion da a gyhoeddir o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yw gweddill y canllawiau.
Mae’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol wedi’i anelu at bob Gweithiwr Proffesiynol yn y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â dysgu a datblygu, y rhai sy’n gweithio ym maes Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac Arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus.
Un o brif elfennau’r broses o weithredu’r Fframwaith yw codi ymwybyddiaeth Awdurdodau Perthnasol o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau o dan y Fframwaith ac egluro’r disgwyliadau o ran pwy ddylai wneud beth. I’r perwyl hwnnw, cyhoeddodd fy swyddogion becyn gwybodaeth ddechrau mis Hydref ar gyfer Awdurdodau Perthnasol a oedd yn cynnwys rhestr o’u dyletswyddau a thempled cynllun hyfforddi.
Fel rhan o’r Fframwaith mae Llywodraeth Cymru yn treialu “Gofyn a Gweithredu” sef dull ymholi wedi’i dargedu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus ynglŷn â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd hyn yn rhoi hyder i weithwyr proffesiynol ‘Ofyn’ os byddant yn gweld arwyddion o gam-drin a ‘Gweithredu’ mewn modd priodol er mwyn sicrhau, os bydd dioddefwr yn datgelu gwybodaeth o’r fath, ei fod yn cael y gofal priodol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn partneriaeth â dwy ardal beilot (pum Awdurdod Lleol Gwent a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) i brofi dull ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ o ddarparu hyfforddiant Gofyn a Gweithredu a datblygu dull llywodraethu rhanbarthol ar gyfer Gofyn a Gweithredu. Yn dilyn gwerthusiad o’r dull hwn yn gynnar y flwyddyn nesaf byddwn yn llunio’r Canllawiau Gofyn a Gweithredu terfynol ac yn eu cyflwyno’n genedlaethol ledled Cymru o 2017 ymlaen.
O ran gwneud gwahaniaeth, dim ond megis dechrau mae’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i gael ei ymgorffori’n llawn o fewn gweithlu’r awdurdodau perthnasol a thu hwnt. Mae’r arwyddion cynnar yn gadarnhaol ac mae’n amlwg bod croeso mawr i’r Fframwaith o ran codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithlu’r sector cyhoeddus er y cydnabyddir bod cyfathrebu rheolaidd yn hanfodol ac y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effaith y Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol yn fanwl iddo fynd rhagddo.
Grŵp Cynghori ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Diben y Grŵp hwn oedd darparu safbwynt strategol ar gyfer y sector ac i randdeiliaid roi cyngor arbenigol i ategu’r broses o weithredu’r Ddeddf yn ogystal â chefnogi polisïau a rhaglenni.
Mae trefniadau, ffocws ac aelodaeth bresennol y Grŵp hwn wedi’u diwygio’n ddiweddar ac mae’n amlwg bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod lleisiau a phrofiadau’r sector cyfan, yn cynnwys goroeswyr yn cael eu clywed.
Mae’r grŵp cynghori yn chwarae rhan bwysig o ran casglu safbwyntiau o bob rhan o’r sector ond mae angen iddo hefyd roi cyngor strategol imi. Gofynnir i’r grŵp roi mewnbwn strategol sylweddol dros y misoedd nesaf, yn cynnwys, er enghraifft, ar y Strategaeth Genedlaethol, ymgysylltu â goroeswyr, Dangosyddion Cenedlaethol a threfniadau datganoli cyfrifoldeb i’r rhanbarthau ar gyfer y dyfodol.
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
Cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 a gyflwynodd ddarpariaethau i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a’r menywod sydd mewn perygl o ddioddef anffurfio organau cenhedlu. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Swyddfa Gartref ar nifer o ganllawiau statudol sy’n ymwneud â chyflwyno dull adrodd gorfodol, gorchmynion amddiffyn rhag anffurfio organau cenhedlu benywod a’r canllawiau amlasiantaeth ehangach.
Daeth adrodd ar achosion o anffurfio organau cenhedlu benywod yn orfodol ar 31 Hydref 2015. Mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol rheoledig ac athrawon yng Nghymru a Lloegr roi gwybod i’r heddlu am achosion hysbys o anffurfio organau cenhedlu ymhlith merched o dan 18 oed.
Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref Ganllawiau Ymarfer Amlasiantaeth diwygiedig ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod ar gyfer pob unigolyn sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus ar 1 Ebrill 2016. Mae’r canllawiau hyn yn ganllawiau statudol o dan Ddeddf Troseddau Difrifol 2015. Mae’r canllaw yn nodi cyfrifoldebau prif weithredwyr, cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr o fewn asiantaethau sy’n ymwneud â diogelu a chefnogi menywod a merched y mae anffurfio organau cenhedlu yn effeithio arnynt.
O ganlyniad i adroddiad “Tackling FGM in the UK – Intercollegiate recommendations for identifying, recording and reporting” a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd, datblygodd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ffrwd waith Iechyd mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod.
Yn dilyn arolygiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a oedd yn edrych ar ymateb Heddluoedd i Drais ar sail Anrhydedd, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a Phriodasau dan Orfod, penderfynwyd uno’r Grŵp Arwain Trais ar sail Anrhydedd a Phriodas dan Orfod a’r Grŵp Arwain Strategol Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Arwain Strategol Trais ar sail Anrhydedd ar ei newydd wedd ar 15 Mawrth 2016, ac mae’r grŵp wrthi’n cwblhau Cynllun Gweithredu 2016-2017, a fydd, o hyn ymlaen, yn cwmpasu anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod.
Mae swyddogion yn parhau i weithio’n agos gydag Uned Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod y Swyddfa Gartref er mwyn lleihau’r risg bosibl o anghysondeb ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir o gan Ddeddf Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 er mwyn sicrhau bod strwythur a threfniant gwasanaethau datganoledig yn cael eu hystyried.
Beth yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gasglu safbwyntiau a phrofiadau goroeswyr? A oes trefniadau ar waith i gasglu’r profiadau hyn ac i ba raddau mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i helpu i lywio’r broses o weithredu darpariaethau’r Ddeddf?
Adroddiad Ymgysylltu â Goroeswyr
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar oroeswyr a defnyddio’r hyn maent yn ei ddweud wrthym i helpu i lunio polisïau. Comisiynodd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gynghorydd Cenedlaethol a Chymorth i Ferched Cymru i lunio adroddiad ar brofiadau goroeswyr. Mae’r adroddiad hwn ‘Are you listening and am I being heard?’ yn cyflwyno safbwyntiau a phrofiadau goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
Ystyriwyd argymhellion yr adroddiad fel rhan o’r broses o ddatblygu’r Strategaeth Genedlaethol. Bydd llawer o’r argymhellion yn cael eu cynnwys yn y cynllun cyflawni a gaiff ei gyhoeddi ar ôl cyhoeddi’r Strategaeth. Mae’r egwyddorion a amlinellir yn yr adroddiad wedi cael eu hymgorffori yn y Strategaeth, yn enwedig o ran gwella cymorth a hygyrchedd gwasanaethau arbenigol a’r broses o gyfeirio pobl atynt, ar gyfer y dioddefwr, y goroeswr a’u teuluoedd.
Fel y nodir uchod, yn dilyn adolygiad o drefniadau llywodraethu ac aelodaeth y Grŵp Cynghori ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, mae’r aelodaeth bellach yn cynnwys cynrychiolydd goroeswyr i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau goroeswyr yn cael eu clywed.
A yw goroeswyr achosion o gam-drin yn dechrau cael gwell ymatebion gan awdurdodau cyhoeddus o ganlyniad i’r Ddeddf, yn enwedig y rhai sydd angen gwasanaethau arbenigol?
Credaf fod awdurdodau lleol yn dechrau ymateb yn well i oroeswyr a’n bod yn ymdrechu i wella’r sefyllfa. Rydym yn parhau i ddatblygu gwell ffyrdd i oroeswyr roi gwybod am eu profiadau a sicrhau bod gwasanaeth cyhoeddus ac arbenigol cadarn ar gael i helpu.
Rydym yn cydnabod bod bylchau o hyd yn y broses o ddarparu gwasanaethau arbenigol a chyda’n partneriaid arbenigol, rydym yn parhau i fynd i’r afael â’r bylchau hyn a pharhau i gefnogi’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael, a byddwn yn targedu adnoddau ychwanegol tuag at y meysydd lle mae’r angen mwyaf er mwyn sicrhau bod gwasanaethau arbenigol yn gynaliadwy yn y dyfodol.
“Gofyn a Gweithredu”
Mae “Gofyn a Gweithredu” yn ei gwneud yn ofynnol i bobl broffesiynol ofyn i gleientiaid a ydynt yn cael eu cam-drin ac mae’n ofynnol iddynt gynnig atgyfeirio, ymyriadau neu gymorth arbenigol yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen arnynt.
Fel y nodir uchod, mae Llywodraeth Cymru yn treialu “Gofyn a Gweithredu” ar hyn o bryd, sef dull ymholi wedi’i dargedu ar draws gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd hyn yn rhoi hyder i bobl broffesiynol ‘Ofyn’ os byddant yn gweld arwyddion o gam-drin a ‘Gweithredu’ mewn modd priodol er mwyn sicrhau, os bydd dioddefwr yn datgelu gwybodaeth o’r fath, ei fod yn cael y gofal priodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu comisiynu gwerthusiad o dreialon ‘Gofyn a Gweithredu’. Ymhlith nodau arfaethedig y gwaith ymchwil mae:
· Nod 1 – Deall a all y ddau ddull “Gofyn a Gweithredu” a fabwysiadwyd yn gynnar newid patrymau neu effaith y broses adnabod, atgyfeirio a’r defnydd o wasanaethau ar gyfer y rhai sy’n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a sut y maent yn gwneud hynny.
· Nod 2 – Cynnal dadansoddiad cost a budd mewn perthynas â’r dull Gofyn a Gweithredu.
· Nod 3. Deall y gwersi allweddol sy’n dod i’r amlwg o bob un o’r safleoedd sydd wedi mabwysiadu’r broses yn gynnar er mwyn llywio’r gwaith o gyflwyno’r broses yn genedlaethol.
Yn wreiddiol, bwriadwyd i’r gwerthusiad gael ei gynnal rhwng hydref 2016 a gwanwyn 2017. Fodd bynnag, mae pob un o’r safleoedd sydd wedi mabwysiadu’r broses yn defnyddio dulliau gwahanol o hyfforddi a chasglu data. Mae angen mynd i’r afael â materion yn ymwneud â chasglu data er mwyn gwerthuso’r prosiect yn effeithiol.
Rhaglen bum mlynedd yw hon ac ar ôl ei chyflwyno ar ddiwedd 2017 bydd pob cyflogai mewn awdurdod perthnasol yn y sector cyhoeddus sydd naill ai’n gweithio mewn swydd sy’n ymdrin â’r cyhoedd (e.e. bydwraig neu Swyddog Tai Awdurdod Lleol) neu’r rhai sy’n gweithio mewn swydd lle y byddai profiad o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn cymhlethu natur ymgysylltiad eu cleientiaid â hwy yn eu rôl ac yn effeithio ar hynny (e.e. Gweithiwr Cymdeithasol neu weithiwr Iechyd Meddwl proffesiynol) yn cael hyfforddiant Gofyn a Gweithredu.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ail-dendro contract Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ac fe’i hailenwyd yn wefan Byw Heb Ofn. Cymorth i Ferched Cymru oedd y darparwr llwyddiannus a dyfarnwyd y contract newydd ym mis Hydref 2015.
Mae’r wefan Byw Heb Ofn wedi cael ei hailstrwythuro’n sylweddol i ddarparu adnodd cynhwysfawr i ddioddefwyr a goroeswyr, teuluoedd a ffrindiau a gweithwyr proffesiynol. Mae’r safle newydd wedi cael ei gynllunio i fod yn un o’r prif ffynonellau gwybodaeth am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru ac mae’n ategu gwaith y Llinell Gymorth drwy roi cyngor i bobl a’u cyfeirio at ffynonellau cymorth.
Yn 2014-15 derbyniodd y Llinell Gymorth 199 o alwadau gan ddynion o gymharu â 4,754 o alwadau gan fenywod a oedd yn gofyn am gymorth a chyngor. O ran ffigurau 2015-16 cafwyd 232 o alwadau gan ddynion a 5,161 o alwadau gan fenywod.
Cynllun Dyn
Mae Cynllun Dyn yn darparu cymorth eiriolaeth rheng flaen i ddynion, yn ogystal â chymorth dros y ffôn a’r we gan eu cyfeirio at wasanaethau lleol. Mae’r Cynllun hefyd yn darparu hyfforddiant ac yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ledled Cymru o’r mater a sut i gefnogi dynion yn yr amgylchiadau hyn yn y ffordd orau.
Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid i Cynllun Dyn yn ystod 2016-17.
A oes gan y Cynghorydd Cenedlaethol ddigon o bŵer ac annibyniaeth ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu?
Mae’r Cynghorydd Cenedlaethol yn darparu safbwynt annibynnol, arbenigol o ran y gwaith sy’n cael ei gyflawni yng Nghymru; gan gynghori, llunio a llywio datblygiadau deddfwriaethol, strategaethau a pholisïau a hybu gwelliannau yn y broses o atal, amddiffyn a chefnogi unigolion y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.
Mae’r rôl yn un gynghorol statudol, sy’n annibynnol ar y Llywodraeth, a nodir ei swyddogaethau yn adran 21 o’r Ddeddf;
(a) cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig (gweler isadran (2));
(b) darparu cynhorthwy arall i Weinidogion Cymru wrth iddynt ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig;
(c) gwneud gwaith ymchwil mewn perthynas ag ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon, mynd i’r afael â materion cysylltiedig neu ymchwilio i weld a yw cam-drin o unrhyw fath yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag anghydraddoldeb o unrhyw fath rhwng pobl o wahanol ryw, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol;
(d) darparu cyngor a chynhorthwy arall, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, i unrhyw berson ar faterion sy’n ymwneud ag ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion perthnasol;
(e) cynhyrchu adroddiadau ar unrhyw fater sy’n berthnasol i ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig.
Dechreuodd y Cynghorydd Cenedlaethol, Rhian Bowen-Davies ar ei swydd ar 28 Medi 2015 ac mae’n gwbl annibynnol gyda chymorth gweinyddol gan y Tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau.
Mae’r Cynghorydd yn ymgysylltu’n llawn â’r Gwasanaeth Cyhoeddus, gyda sefydliadau arbenigol o’r trydydd sector a chyda dioddefwyr a goroeswyr.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynghorydd Cenedlaethol ddrafftio Cynllun Blynyddol. Rhaid i’r Cynllun Blynyddol nodi sut mae’n bwriadu arfer swyddogaethau’r rôl yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol. Mae Adran 22(2) yn datgan bod yn rhaid i Gynllun Blynyddol:
(a) Datgan amcanion a blaenoriaethau’r Cynghorydd Gweinidogol ar gyfer y flwyddyn ariannol mae’r adroddiad yn ymwneud â hi;
(b) Datgan unrhyw faterion y mae’r Cynghorydd Gweinidogol yn bwriadu adrodd arnynt yn ystod y flwyddyn honno;
(c) Datgan unrhyw weithgareddau eraill mae’r Cynghorydd Cenedlaethol yn bwriadu ymgymryd â hwy wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.
Cyhoeddwyd Cynllun Blynyddol cyntaf y Cynghorydd Cenedlaethol ym mis Ebrill 2016 ac mae’r Adroddiad Blynyddol cyntaf, sy’n ymwneud â’r cyfnod chwe mis o fis Medi 2015 i fis Mawrth 2016, wedi cael ei gyhoeddi’n ddiweddar.
Nod cyffredinol yr Adroddiad Blynyddol cyntaf oedd dysgu am brofiadau pobl yng Nghymru, yr hyn a oedd yn bwysig iddynt a’r hyn yr oeddent am i’r Cynghorydd ganolbwyntio arno.
Yn ystod y chwe mis cyntaf, er mwyn i’r Cynghorydd Cenedlaethol sicrhau cyfreithlondeb a hygrededd, gosodwyd tri amcan: Gwrando, Cyfathrebu a Deall, y Defnyddiwr Gwasanaethau Presennol a’r Darpar Ddefnyddiwr Gwasanaethau, a Chyfranogi a Dylanwadu ar sail Persbectif.
I ba raddau mae’r canllaw arfer da ar gyfer cydberthnasau iach yn dylanwadu’n llwyddiannus ar ddatblygu dull ysgol gyfan o herio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?
Ni wyddom beth yw maint y dylanwad ar hyn o bryd. Bydd Estyn yn cynnal adolygiad thematig o’r ddarpariaeth cydberthnasau iach bresennol yn ystod blwyddyn academaidd 2016-2017, ac erbyn hynny bydd y diwygiadau presennol rydym yn ymgymryd â hwy, yn cynnwys mewn perthynas â’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol, wedi cael cyfle i ymsefydlu’n gadarn.
Mae adolygiad o adnoddau addysgu cydberthnasau iach wedi cael ei gomisiynu ac mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu ‘Prosiect Sbectrwm’ Hafan Cymru a ‘Phrosiect Plant yn Cyfrif’ Cymorth i Ferched Cymru er mwyn cefnogi elfen atal y Ddeddf.
Bydd y cyllid ar gyfer ‘Prosiect Sbectrwm’ yn parhau yn 2016-17, yn ogystal â chymorth i blant yn y gymuned drwy ‘Brosiect Plant yn Cyfrif’ Cymorth i Ferched Cymru.